Joan Elizabeth Curran | |
---|---|
Ganwyd | 26 Chwefror 1916 ![]() Abertawe ![]() |
Bu farw | 10 Chwefror 1999 ![]() o canser ![]() Glasgow ![]() |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Cymru, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ffisegydd, peiriannydd ![]() |
Priod | Samuel Curran ![]() |
Gwyddonydd Cymreig oedd Joan Elizabeth Curran (26 Chwefror 1916 – 10 Chwefror 1999) a chwaraeodd ran flaenllaw yn natblygiad y radar a'r bom atomig yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Dyfeisiodd 'Chaff', sef offer a oedd yn ymwneud â radar, a honir i'r ddyfais honno arbed miloedd o fywydau awyrlu'r Cynghreiriaid yn ystod y rhyfel. Datblygodd hefyd y 'ffiws-agos' (proximity fuse) a'r broses gwahanu eisotopau ymbelydrol ar gyfer creu'r bom atomig, drwy buro wraniwm.